David Rees AC
Cadeirydd, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Y Swyddfa Ddeddfwriaeth
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
5 Chwefror 2016
Annwyl Gadeirydd,
YNGHYLCH: Gofal Preswyl ar gyfer pobl hŷn
Diolch i chi am y cyfle i roi diweddariad manwl i’r Pwyllgor ar y gwaith sydd ar droed i fwrw ymlaen â’r Gofynion ar gyfer Gweithredu yn fy Adolygiad i o Gartrefi Gofal. Roedd llawer ohonynt yn adleisio’r rhai a wnaed gan y Pwyllgor yn ei Adolygiad ei hun.
Yn dilyn eich cais am amserlen i fanylu ar y gwaith sydd ar droed, byddaf yn fodlon darparu hyn ym mis Mawrth, Fel y nodais yn fy sesiwn tystiolaeth, mae’r darn yma o waith yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd, a’i nod yw cadarnhau’r newidiadau sy’n cael eu rhoi ar waith ledled y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn gweithredu'r Gofynion ar gyfer Gweithredu a wnaed yn fy Adolygiad. Gobeithio y bydd yn profi’n ddefnyddiol o ran darparu strwythur cyffredinol ar gyfer y gweithredu, gan sicrhau bod y cynnydd yn haws ei oruchwylio gan y Pwyllgor a gennyf i.
Hefyd, rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am gyfarfod gyda’r swyddog arweiniol mewn perthynas â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, er mwyn sicrhau bod y Gofynion ar gyfer Gweithredu perthnasol a wnaed yn fy Adolygid i o Gartrefi Gofal yn cael eu hadlewyrchu yn y rheoliadau sy’n sail i’r Ddeddf. Bydd y gwaith hwn yn cael ei adlewyrchu ar yr amserlen hefyd.
Edrychaf ymlaen at ddarparu dadansoddiad o’m gwaith craffu ar y rheoliadau hyn i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol nesaf, yn ychwanegol at gynnal sgyrsiau pellach am sut gellir sicrhau bod ein swyddogaethau craffu perthnasol yn cyd-fynd â’n rhaglenni gwaith yn y dyfodol.
Yn gywir,
Sarah Rochira
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru